Pwy ydi Carrie?
Mae Carrie Harper yn Gynghorydd Sir ac yn ymgyrchydd dros annibyniaeth sy'n benderfynol o symud ein mudiad ymlaen yng ngogledd Cymru.
Cafodd Carrie ei eni a'i magu ym Mharc Caia yn Wrecsam, y stâd tai cyngor fwyaf yng ngogledd Cymru. Mae hi'n dal i fyw ar y stâd gyda'i phartner a'u dau blentyn ac mae wedi cynrychioli ward Queensway ar gyfer Plaid Cymru ers 2008.
Wrth dyfu a byw mewn ardal sydd â rhai o'r lefelau uchaf o dlodi plant yng Nghymru, mae Carrie yn deall anghydraddoldeb yn well na'r mwyafrif ac mae'n angerddol am wella ei chymuned. Mae'n ymgyrchydd profiadol ar faterion fel cynllunio, iechyd a newid hinsawdd, ei ffocws yw adeiladu Cymru gwell a hyrwyddo'r neges mai dim ond trwy Lywodraeth Blaid Cymru y bydd hyn yn bosibl ac yn y pen draw trwy Annibyniaeth.
Mae Carrie hefyd yn angerddol dros y Gymraeg, mae hi'n ddysgwr ei hun ac mae ei phartner a dau o blant yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae hi wedi ymgyrchu dros ysgolion cyfrwng Cymru newydd ac roedd yn un o'r criw aeth ati i sefydlu canolfan ddiwylliannol Saith Seren, sy'n cefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, yn ogystal â hyrwyddo diwylliant Cymru yn y dref.
"Pan wnes i sefyll gyntaf dros Blaid Cymru 12 mlynedd yn ôl mewn ardal Llafur pybyr ychydig filltiroedd o'r ffin, dywedodd rhai pobl wrtha i fy mod i'n gwastraffu fy amser. Ond enillais, a chroesawodd fy nghymuned y newid roeddwn i a'r Blaid am weld â breichiau agored.
Mae'r Blaid wedi cryfhau a magu momentwm ledled yr ardal ers hynny ac yn awr mae'n bryd ehangu ein cefnogaeth ar draws y Gogledd ddwyrain. Mae hyn yn allweddol os ydym am sicrhau llwyddiant i Blaid Cymru ond yn sylfaenol i symud y mudiad Annibyniaeth cyfan yn ei flaen. Mae angen i ni uno ein cymunedau ledled y Gogledd os ydym am adeiladu'r genedl.
Rydyn ni'n wynebu dyfodol ansicr, oherwydd Covid, oherwydd newid hinsawdd, oherwydd Brexit. Mae'n amlwg nad yw ein cymunedau eisiau dychwelyd i hen drefn sydd wedi eu methu ers cenedlaethau, maen nhw eisiau atebion newydd beiddgar i wynebu'r heriau anodd yma.
Rwyf am fynd â neges Plaid i'r cymunedau yr anghofiodd Llafur amdanynt. Mae'r amser am gyfaddawdu ar ben, gallwn gael newid radical yng Nghymru ond mae angen i ni ethol gwleidyddion hollol wahanol er mwyn ei chyflawni. 2021 yw ein cyfle i wneud hynny, os bachwn ar y cyfle."
Pwy sy'n cefnogi Carrie?
Am wybod mwy?
Gallwch ddod o hyd i dudalen Facebook Carrie YMA a'i chyfrif Twitter YMA
Trafodaeth â Leanne Wood - https://www.facebook.com/watch/?v=537643383582313
Trafodaeth â Dafydd Iwan - https://www.facebook.com/CarrieWrecsam/videos/290634032089265/
Erthyglau newyddion
Gydag ymhell dros ddegawd o waith dros Blaid Cymru a chyfoeth o brofiad ymgyrchu cymunedol ledled gogledd Cymru, ysgrifennodd Carrie lawer am ei barn ar lu o faterion gwahanol. Dyma ddolenni i rai o'i herthyglau mwy diweddar:
Independence - Nation.Cymru - Why north east Wales holds the keys to Welsh Independence
Housing - Nation.Cymru - We must resist the relentless development turning the north of Wales into 'Cheshire on the cheap'
A new normal - Nation.Cymru Why localism offers a path to building resiliant communities post Covid-19
Child Poverty - Nation.Cymru Westminster is condeming our children to poverty
Health - Daily Post Health Board faces backlash over plans for nurses to 'work a shift for free every month'
Economy - Leader Live If there's public money to paint the Union Jack on planes, there should be money for those who build them
Period Poverty - Daily post North Wales school girls going hungry because of cost of sanitary products
Showing 1 reaction
Sign in with
Sign in with Facebook Sign in with Twitter