[Saesneg isod]
Nid yw myfyrwyr sy'n mynychu Chweched Dosbarth Ysgol Morgan Llwyd yn derbyn cludiant ysgol am ddim oherwydd toriadau'r cyngor. Mae hyn yn wahanol iawn i fwyafrif llethol o fyfyrwyr 6ed dosbarth sy'n astudio drwy'r Saesneg yn y sir.
Galwn ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau cydraddoldeb i fyfyrwyr ar draws y fwrdeistref sirol beth bynnag fo iaith addysg. Dylai myfyrwyr Ysgol Morgan Llwyd gael yr un cyfle â myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Saesneg.
Students attending Ysgol Morgan Llwyd's Sixth Form do not receive free school transport due to council cutbacks. This is in stark contrast to many other 6th-form students in the county borough of Wrexham.
We call on Wrexham County Borough Council to ensure parity for students across the county borough regardless of the language of education. Students at Ysgol Morgan Llwyd should get the same service as students studying through the medium of English.